'D a' i 'mofyn haeddiant byth/fyth na nerth
Da'i 'mofyn haeddiant byth/fyth na nerth

1,2,3,5;  1,4,5,(6,7).
(Cyfiawnder a nerth)
Da'i 'mofyn haeddiant fyth na nerth
  Na ffafr neb na'i hedd,
Ond Hwnw'n unig gŵyd fy llwch,
  Yn fyw i'r làn o'r bedd.

Ddiffygiaf ddim,
    er c'yd fy nhaith,
  Tra pery gras y nef;
Ac er mor lleied yw fy ngrym,
  Mae digon ynddo Ef.

Esgyn a wnaeth i entrych ne',
  I eiriol dros y gwan;
Fy enaid innau dỳn Efe
  I'w fynwes yn y man.

Mae'n eistedd
    ar ddeheulaw'r Tad,
  Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sy mewn bod
  Tan ei awdurdod Ef.

Fe grŷn y ddae'r ac uffern fawr
  Wrth amnaid T'wysog nen;
O flaen gogoniant Hwnw fu
  Yn dyoddef ar y pren.

O Iesu, cymmer fi i gyd,
  Fel mỳnech, gad i'm fod;
Ond im' gael treulio bob yr awr
  Yn hollol i dy glod.

Os ar y llawr, neu ar y làn,
  Y byddaf ddydd na nos,
Rho imi orphwys yna tan
  Ddyferion gwaed y groes.
ffafr :: ffafor
na'i :: na'u
Fe grŷn y ddae'r :: Y ddaear grŷn
Hwnw fu // Yn dyoddef :: sydd i'r Hwn // Fu'n dioddef
mỳnech ::mynnych
i dy glod :: er dy glod

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Bedford (William Wheale 1696-1727)
  Eiriolaeth (<1835)
Gloucester (Salmydd Ravenscroft 1621)
Gräfenberg / Nun Danket All
    (Johann Crüger 1598-1662)
Henllan (<1835)
Kent (Samuel J Stanley 1767-1822)
St Ann (William Croft 1678-1727)
St James (R Courteville -1772)

gwelir:
Darfydded son am bleser mwy
  Esgyn a wnaeth i entrych nef
Mae 'ngolwg acw tua'r wlad
Mae yn yr Iesu drysor mwy
Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
Tyr'd Ysbryd sanctaidd ledia'r ffordd

(Righteousness and strength)
I shall not seek merit ever nor strength
  Nor the favour of anyone nor his peace,
But Him along who will raise my dust,
  Alive up from the grave.

I shall not fail,
    despite the length of my journey,
  While the grace of heaven persists;
And despite how small is my force,
  There is sufficient in Him.

Ascend he has to the vault of heaven,
  To intercede for the weak;
My own soul He will draw
  To his breast soon.

He is sitting
    on the right hand of the Father,
  On the great throne of heaven;
And the whole of what is in being is
  Under His authority.

The earth and great hell shall turn
  At the nod of the Prince of heaven;
Before the glory of Him who did
  Suffer on the tree.

O Jesus, take me altogether,
  As you will let me be;
But for me to get to spend every hour
  Completely for thy praise.

If on the earth, or up above,
  I shall be day or night,
Give to me rest there under
  The drops of the blood of the cross.
::
nor his :: nor their
::
of Him who did // Suffer :: which is to Him // Who did suffer
::
::

tr. 2014,18 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~